Description
Welsh/Cymraeg
Canhwyllau Cwyr Gwenyn gyda dyluniad Cwch Gwenyn
Set anrheg sy’n cynnwys canhwyllau cwyr gwenyn hardd ac anghyffredin. Mae pob un o’r tair cannwyll cwyr gwenyn wedi’u haddurno â chwch gwenyn mêl ar bob ochr ac yn ein hatgoffa o ryfeddodau naturiol y gwanwyn a’r haf!
Bydd pob un o’r canhwyllau siâp sgwâr yn rhyddhau persawr hyfryd am ddeg awr.
Gwneir y canhwyllau’n llwyr o gwyr gwenyn puraf ein gwenyn ein hunain ac o gwyr gwenyn gan wenynwyr eraill y DU.
Caiff y canhwyllau eu tywallt â llaw a’u gwneud mewn sypiau bach yma yng nghefn gwlad hardd Cymru.
Daw’r canhwyllau cwyr gwenyn mewn blwch anrheg bioddiraddadwy arbennig gyda gwlân pren gydag ardystiad FSC. Maent yn anrheg hyfryd ar gyfer unrhyw achlysur.
Bydd y canhwyllau wedi’u lapio mewn papur eco-gyfeillgar, llinyn bioddiraddadwy, gyda llwy fêl bren fach. Os hoffech gynnwys neges fer yn sownd yn eich deunydd lapio, rhowch wybod i mi isod.
Mae cludiant i’r DU am ddim.
Gofalu am eich canhwyllau a chadw’n ddiogel: Maen nhw’n llosgi am o leiaf dwy awr a hyd at bedair awr. Cadwch nhw draw oddi wrth blant, anifeiliaid anwes, drafftiau a deunyddiau fflamadwy. Peidiwch byth â’u gadael heb oruchwyliaeth. Dylid eu llosgi mewn daliwr cannwyll addas. Mwynhewch!
Reviews
There are no reviews yet.